Carchar i gyn-heddwas am geisio trefnu rhyw â phlentyn
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-gwnstabl Heddlu'r Gogledd wedi ei garcharu wedi iddo gael ei ddal gan heddwas cudd yn ceisio trefnu rhyw gyda phlentyn.
Fe wnaeth James Evans, 33 oed o Fostyn, Sir y Fflint, gyfaddef i saith cyhuddiad, gan gynnwys ceisio trefnu gweithred ryw gyda phlentyn drwy e-bost a rhannu lluniau anweddus o blant.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd ei garcharu am 28 mis.
Clywodd y llys iddo gael ei ddiswyddo ym mis Mai a dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod ei ymddygiad wedi dangos meddwl llygredig.
Ychwanegodd bargyfreithiwr Evans ei fod yn derbyn bod ei ymddygiad wedi bod yn annerbyniol, ac nid oedd wedi gwneud unrhyw ymdrech i wfftio'r honiadau yn ei erbyn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Alun Oldfield o Heddlu'r Gogledd: "Mae'r lluniau gafodd eu darganfod ar gyfrifiadur Evans yn ofnadwy, ac roedd ei ymddygiad yn warthus, yn enwedig oherwydd y ffaith ei fod mewn rôl diogelu pobl fregus rhag ymddygiad fel hyn."