Gwelyau cocos wedi'u llygru gan garthion, medd casglwyr
- Published
image copyrightGetty Images
Mae carthion wedi llygru gwelyau cocos yn ne Cymru, yn ôl casglwyr cocos.
Casglwyr yn aber Afon Llwchwr sy' wedi dweud bod y gorlif wedi glaw trwm oedd wedi dinistrio miloedd o gocos eisoes.
Maen nhw'n honni mai hwn yw'r digwyddiad diweddaraf mewn cyfres o broblem llygru dŵr a bod yr awdurdodau yn eu hanwybyddu.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn ymchwilio i'r mater a bod sampl wedi ei chymryd ar gyfer dadansoddiad.
Yn ôl Dŵr Cymru, mae timau yn gweithio'n galed i gynnal gwasanaethau a mesur unrhyw effaith amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd nad oedd wedi derbyn unrhyw adroddiadau bod newid wedi bod yn natur y gwelyau cocos.
Fe ddigwyddodd y broblem ddiweddaraf wedi i bibell dorri ger gwaith carthion Tregŵyr.