Ymwelwyr â Chymru yn gwario mwy
- Published
image copyrightSurf Snowdonia
Fe wnaeth ymwelwyr â Chymru wario 21.5% yn fwy ym mhum mis cyntaf 2015 nac yn yr un cyfnod yn 2014, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae'r ffigwr, gan Arolwg Twristiaeth Prydain, yn cymharu â chynnydd o 19.1% ar draws Prydain.
Fe wnaeth ymwelwyr wario £685m rhwng mis Ionawr a mis Mai 2015, yn ôl yr arolwg.
Dywedodd weinidogion ei fod yn "galonogol" i dwristiaeth ac economi Cymru.