Powys yn wynebu toriadau llym

  • Cyhoeddwyd
Powys county councilFfynhonnell y llun, Oliver Dixon/Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cyngor angen gwneud arbedion o £70 miliwn erbyn 2020.

Mae cabinet Cyngor Powys wedi argymell toriadau llym wrth iddyn nhw geisio arbedion o £70 miliwn erbyn 2020.

Ymhlith yr argymhellion mae casglu gwastraff yn fisol, cau dwy ganolfan ail-gylchu arall, a rhoi ciniawau ysgol yn nwylo cwmnïau allanol.

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor Wynne Jones: "Rydym eisoes bron â gwneud arbedion o £40 miliwn dros y blynyddoedd diwethaf ond does yna ddim dewisiadau hawdd o'n blaenau.

"Mae'r cabinet am ddiogelu gwasanaethau rheng flaen felly rydym yn cynnig cynllun tair blynedd, gan gynnwys ffurfio cwmnïau gyda'r sector breifat, rhoi rhai gwasanaethau i'r sector breifat a defnyddio elusennau neu sefydlu ymddiriedolaethau."

Dywedodd y byddai'n rhaid i Wasanaethau Gofal yr Oedolion wneud toriadau o £5 miliwn, y priffyrdd £6.3miliwn, Gwasanaethau Plant £2.8 miliwn ac ysgolion £4 miliwn.

Disgrifiad,

Sara Gibson yn cael ei holi ar Newyddion 9

Dywedodd Sara Gibson, gohebydd BBC Cymru yn y canolbarth fod y cyngor yn chwilio am arbedion sylweddol.

".... ar yr olwg gyntaf maen nhw'n edrych yn doriadau llym.

"Toriadau dros y tair blynedd nesa sydd wedi cael eu hamlinellu, ac maen nhw'n cwmpasu bron a bod pob adran o fewn Cyngor Powys."

" Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisoes wedi dod o hyd i arbedion gwerth£40 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae'r Cabinet yn dweud yn eu datganiad nad oes 'na arbedion hawdd mwyach."

Un argymhelliad yw bod casgliadau bin unwaith y mis yn lle bob tair wythnos, gan arbed £300,000 y flwyddyn.

Mae sôn am sefydlu elusen i fod yn gyfrifol am wasanaethau amgueddfeydd y sir.

Argymhelliad arall yw torri £250,000 ar yr arian sy'n cael ei wario ar gynghorwyr.

Mae bwriad i godi oedran mynychu ysgol gynradd i bedair oed, gydag un cyfnod mynediad bob blwyddyn.