Cyhuddo dyn o lofruddio baban yng Nghei Connah
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Lannau Dyfrdwy wedi ymddangos gerbron Ynadon Wrecsam ar gyhuddiad o lofruddio babi dau fis oed yng Nghei Connah ym mis Hydref 2014.
Cafodd cais Sean Michael Mullender, 22, ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug yfory.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion iechyd wedi cysylltu â nhw ar 2 Hydref ynglŷn â'r amgylchiadau pan gafodd y plentyn, Daniel John Mullender, ei gludo o'i gartref i'r ysbyty yng Nghaer.
Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl, ble bu farw deuddydd yn ddiweddarach.
Cafodd dyn 22 oed ei arestio ar y pryd a'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n parhau i ymchwilio.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol