Carchar am herwgipio bachgen 'am daflu afalau'

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae dyn wedi cael ei garcharu ac un arall wedi cael dedfryd wedi'i gohirio am ymosod ar a herwgipio bachgen ysgol yn Y Drenewydd am iddo "daflu afal" at eu car.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod y car wedi stopio a bod y bachgen 15 oed wedi cael ei bwnio cyn ei roi yng ngist car. Cafodd ei adael wedyn mewn bin 'sbwriel.

Yn ôl yr erlyniad, roedd 'na fygythiad hefyd i ladd y bachgen.

Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i'r llanc lwyddo i anfon neges destun i'w fam.

Cafodd Declan Cluskey, 24, o'r Drenewydd ei garcharu am naw mis a chafodd ei frawd Dalian, 21, hefyd o'r Drenewydd, ddedfryd o naw mis o garchar wedi'i ohirio. Bydd yn rhaid iddo wneud 150 awr o waith cymunedol di-dâl.

Cafodd y ddau hefyd orchymyn i dalu costau o £900.

'Gorymateb'

Dywedodd y barnwr fod hwn yn achos "anarferol".

Roedd yn derbyn fod y weithred o daflu afalau at geir yn un peryglus, a byddai'n fater gwahanol pe bai nhw wedi rhoi'r bachgen yn y car er mwyn mynd i'r heddlu.

"Ond roedd eich ymddygiad y tu hwnt i reswm, yn orymateb," meddai.

Roedd y bachgen yn gwadu taflu'r afalau, gan ddweud mai un o'i ffrindiau oedd yn gyfrifol.