Carchar am wneud galwad ffug

  • Cyhoeddwyd

Clywodd Ynadon Caernarfon y gallai galwad ffug gan ddyn 52 oed o Lanberis fod wedi costio hyd at £50,000 mewn costau chwilio i'r awdurdodau brys.

Fe wnaeth Richard Pike ymddangos drwy gyswllt fideo o'r carchar yn Stoke Heath ar gyhuddiad o wneud galwadau 999 ffug. Roedd Pike wedi dweud fod ffrind wedi neidio oddi ar y pier ym Mangor.

Fe gafodd ei garcharu am 12 wythnos ac fe fydd rhaid iddo dalu costau o £230.

Clywodd y llys bod wyth o blismyn a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn chwilio ar ôl i alwad 999 gan Pike honni fod ffrind wedi neidio yn ddirybudd i'r Fenai oddi ar Bier Bangor.

Roedd Pike hefyd wedi gwneud galwad ffug arall yn honni fod lladron wedi dwyn arian oddi arno. Roedd eisoes yn y carchar yn Stoke ar ôl ei gael yn euog o drosedd drefn gyhoeddus, niwed troseddol ac ymosod.