Angen i Gymru 'gymryd rhai ffoaduriaid', medd Leanne Wood
- Published
Fe ddylai Cymru "ysgwyddo rhywfaint o'r cyfrifoldeb" o ran ffoaduriaid, yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, wrth i filoedd o ymfudwyr geisio cael mynediad i'r Undeb Ewropeaidd.
"Mae gennym ni hanes o ddarparu lloches i bobl sy'n ffoi o ryfel," meddai Ms Wood, gan alw am gwota o ffoaduriaid i Gymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw polisïau mewnfudo wedi'u datganoli, ond fod y wlad yn fodlon derbyn ffoaduriaid.
Mae AS Sir Fynwy David Davies wedi rhybuddio na fyddai'r Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi pe bai'r DU a gwledydd eraill yr UE yn darparu llety i'r holl ymfudwyr.
Dywedodd Ms Wood wrth BBC Radio 4 nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i ymateb i'r argyfwng.
"Fe ddylen ni allu cael datganiad ar y cyd gan bleidiau Cymru o leiaf, fyddai'n gam cyntaf i agor y drafodaeth am gymryd ein siâr," meddai.
Dywedodd ei bod yn anodd awgrymu faint o ymfudwyr y dylai Cymru dderbyn, ond ei bod wedi cefnogi syniad elusen Oxfam yn y gorffennol, fyddai'n gweld pob awdurdod lleol yn derbyn "dau neu dri" o deuluoedd o Syria, er enghraifft.
Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru, felly byddai hynny'n golygu rhwng 40 a 70 o deuluoedd o Syria yn cael lloches yng Nghymru.
'Ni allwn ymdopi'
Ond dywedodd yr AS Ceidwadol Mr Davies wrth Radio Cymru: "Mae'n rhaid i ni ddweud, sori, ond os ydych chi'n ffoi rhag rhyfel mae gwersylloedd yn Nhwrci a Jordan sy'n gallu sicrhau eich diogelwch.
"Ond ni allwn ni dderbyn miloedd ar filoedd i Ewrop. Pe bai pawb yn cael eu derbyn fe fyddai'n ddiwedd ar y Gwasanaeth Iechyd, oherwydd ni allwn ni ymdopi gyda'r niferoedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw polisi mewnfudo ddim wedi'i ddatganoli a mater i Lywodraeth y DU yw nifer y bobl sy'n ceisio cael eu derbyn i'r DU.
"Er hynny, mae Carwyn Jones wedi ysgrifennu at Weinidog Cartref San Steffan yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn fodlon iawn i gefnogi cynllun Adleoli Pobl Fregus."
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Gorffennaf 2015
- Published
- 15 Mehefin 2015