Rhwyfwyr yn cychwyn ar daith o Wynedd i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Rhwyfo MYC
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y rhwyfwyr yn gweithio mewn sifftiau, gan gwblhau rhwng 20-30 milltir y diwrnod.

Mae aelodau clwb rhwyfo o Wynedd wedi cychwyn ar daith 230 milltir yn rhwyfo cwch i lawr arfordir y gorllewin i Fae Caerdydd.

Mae Clwb Rhwyfo MYC o Borthmadog yn bwriadu cyrraedd Canolfan y Mileniwm mewn pryd ar gyfer dathliadau deng mlwyddiant y ganolfan.

Bydd y rhwyfwyr yn gweithio mewn sifftiau, gan gwblhau rhwng 20-30 milltir y diwrnod.

Maen nhw hefyd yn cario plac llechen ar gyfer y ganolfan, sydd wedi ei gymryd o Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog.

Bydd y criw yn cyrraedd ar 12 Medi i gyd-fynd â dathliadau i nodi pen-blwydd y ganolfan.

Byddan nhw yn ymuno â llu o gychod fydd yn rhan o gynhyrchiad theatrig Ar Waith Ar Daith.