Cyprus v Cymru: Cam yn nes at Euro 2016?

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn erbyn Cyprus yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhaid i Gymru frwydro er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth dros Gyprus yng Nghaerdydd y llynedd

Gall Cymru gymryd cam tuag at Euro 2016 gyda buddugoliaeth yn erbyn Cyprus yn Nicosia nos Iau.

Petai tîm Chris Coleman yn curo byddai angen un fuddugoliaeth arall yn erbyn Israel ddydd Sul i fod yn sicr o'u lle yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn Ffrainc.

Nid yw Cymru wedi profi llwyddiant ar eu teithiau diwethaf i Gyprus - wrth iddyn nhw golli ddwywaith dan reolaeth John Toshack.

Ond mae gan dîm Coleman hyder yn dilyn y fuddugoliaeth dros Wlad Belg ym mis Gorffennaf wnaeth roi Cymru ar frig grwp B.

Daeth hwb i chwarewyr Cymru wrth i Fifa gyhoeddi eu rhestr detholion ddydd Mercher.

Mae Cymru yn parhau yn safle rhif 9 yn y byd, ond am y tro cyntaf erioed maen nhw uwchben Lloegr, sy'n safle 10.

Dim ond unwaith y mae Cymru wedi colli yn yr 11 gêm ddiwethaf, a dyw'r tîm heb ildio gôl ers iddyn nhw guro Cyprus o 2-1 fis Hydref y llynedd.

Mae chwaraewr canol cae Cymru Andy King wedi dweud bod y tîm yn barod am daclo ffyrnig gan Gyprus ar Gareth Bale, ar ôl iddyn nhw "dargedu" seren Cymru y llynedd.

Mae Cyprus wedi cymryd naw pwynt o chwe gêm yn y rowndiau rhagbrofol hyd yn hyn, yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy dros Bosnia-Herzegovina.

Robson-Kanu a Chester yn ôl

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Hal Robson-Kanu wedi teithio gyda'r garfan ar ôl cael anaf yn chwarae i Reading ddydd Sadwrn

Mae Hal Robson-Hanu yn holliach ond dyw'r amddiffynwr James Chester ddim ar gael oherwydd anaf i'w goes.

Cafodd Robson-Kanu, wnaeth sgorio'r ail gôl ym muddugoliaeth Cymru dros Gyprus y llynedd, anaf wrth chwarae i Reading yn erbyn Brentford ddydd Sadwrn.

Anaf i linyn y gar gafodd amddiffynnwr West Brom, Chester, ond mae'r ddau wedi bod yn hyfforddi gyda gweddill y garfan ac wedi teithio i Gyprus.

Mae James Collins, Ben Davies a David Edwards hefyd yn ôl yn y garfan ar ôl methu'r fuddugoliaeth dros Wlad Belg gydag anafiadau.

Ddydd Mercher fe wnaeth yr amddiffynwr Morgan Fox o Charlton dderbyn galwad hwyr i ymuno gyda'r garfan.

Ni fydd y chwaraewyr canol cae Joe Allen, Emyr Huws a Jonathan Williams yn chwarae gan eu bod nhw wedi eu hanafu, ac nid yw David Vaughan yn y garfan oherwydd rhesymau teuluol.

Golwg y cefnogwyr

Disgrifiad,

Mae miloedd o gefnogwyr wedi teithio i Gyprus ar gyfer y gêm

Dywedodd Aled Williams o Sir Gar, sydd wedi teithio i Gyprus i wylio'r gêm, bod "awyrgylch ffantastig" ar yr ynys.

"Dwi'n hyderus am y gêm ac mae 'na deimlad all rhywbeth speshal ddigwydd. Cymru i ennill gan bod y garfan yn gryf iawn ac yn well tîm na Cyprus."

Er hynny, mae na beth pryder am fethu Joe Allen ar gyfer y gêm.

"Ie mae Allen yn enwedig yn mynd i fod yn golled, ond byswn i'n disgwyl i guro Cyprus ac Israel heb Joe Allen."

A beth fydd y sgor nos Iau felly?

"2-1 i Gymru. Bale a Robson-Kanu gyda'r goliau."

Cyprus v Cymru; GSP Stadium, Nicosia; 19:45.

Fe allwch ddilyn holl gyffro gemau Cymru yn erbyn Cyprus nos Iau ac Israel ddydd Sul ar lif byw arbennig Cymru Fyw.