Pryder am ddarpariaeth gofal i'r henoed yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
AwelonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cartref gofal Awelon yn Rhuthun yw un o'r cartrefi dan sylw

Mae Aelod Cynulliad wedi dweud ei fod yn pryderu am ddyfodol cartrefi gofal yn Sir Ddinbych mewn cyfarfod cyhoeddus.

Mae'r cyngor sir yn trafod dyfodol tri cartref yn yr ardal oherwydd gostyngiad yn y galw amdanynt.

Cafodd y cyfarfod nos Fercher ei drefnu gan yr Aelod Cynulliad Llyr Gruffydd, sy'n poeni y byddai cau'r cartrefi yn golygu diffyg gwasanaethau i bobl leol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai dyfodol y cartrefi yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn.

25% yn llai o alw

Y cartrefi dan sylwyw Dolwen yn Ninbych, Cysgod y Gaer yng Nghorwen ac Awelon yn Rhuthun.

Mae'r cyngor yn dweud bod gostyngiad o 25% yn y galw am gartrefi gofal traddodiadol yn ddiweddar - y rheswm pam bod gan nifer o gartrefi gofal fel Awelon welyau gwag.

Disgrifiad o’r llun,
Daeth pobl leol i drafod y syniadau mewn cyfarfod cyhoeddus yn Rhuthun ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan yr Aelod Cynulliad Llyr Gruffydd

Ond er hynny, mae rhestr aros i bobl sydd eisiau lle yn Llys Awelon gerllaw - tai unigol sydd a gofal ychwanegol i'r preswylwyr.

Mae'r cyngor yn cydnabod bod y galw am wasanaethau fel gofal nyrsio a gofal dementia yn debygol o gynyddu. Ond maen nhw'n dweud bod angen datblygu opsiynau modern i ddelio gydag anghenion pobl hŷn.

'Canolbwyntio ar y gymuned'

Dywedodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn "pryderu" y gall y cyngor benderfynu cau'r cartrefi a dymchwel yr adeiladau, gan olygu y byddai rhaid i bobl symud o'u ardaloedd lleol i gael gofal.

"Mae gan lawer o bobl yn yr ardal reswm i ddiolch i Awelon am y gofal y mae eu ffrindiau a'u teuluoedd wedi ei gael," meddai.

"Mae'r ardal yma angen gwasanaeth gofal cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae pobl yn mynd yn hŷn ac fe fydd y galw am ofal i'r henoed ond yn cynyddu yn y dyfodol.

"Mae sicrhau bod pobl hŷn yn byw yn annibynnol yn bwysig ond nid yw cyfleusterau gofal ychwanegol yn addas i bawb, ac mae rhai pobl angen y gwasanaeth sy'n cael ei roi mewn cartref gofal."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych y byddai dyfodol y cartrefi gofal yn destun ymgynghoriad llawn.

Dywedodd y llefarydd mai'r flaenoriaeth yw "diogelu preswylwyr y tri cartref tra'n galluogi i'r cyngor ddatblygu opsiynau modern i gefnogi anghenion pobl hyn yn y dyfodol".

Ychwanegodd na fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan ar ôl yr ymgynghoriad, fydd yn gorffen ar ddiwedd y flwyddyn.