Carwyn Jones: Cymru'n gallu rhoi cartre' i ffoaduriaid
- Published
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cefnogi galwad ar i Lywodraeth y DU dderbyn 10,000 o ffoaduriaid, gan ddweud y gallai 500 i 600 ddod i Gymru.
Dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru ei fod yn credu y byddai pobl Cymru yn gweld hynny'n dderbyniol, sef rhoi cyfle i ffoaduriaid rhyfel i ddechrau bywyd newydd.
"Dyw e ddim yn beth aeddfed i ddweud y gwnaiff y broblem ddiflannu, dyw hynny ddim yn dangos arweiniad - ond dyna mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei ddweud a dyw hynny ddim yn ddigon da," meddai Mr Jones.
Ychwanegodd fod gan holl wledydd Ewrop ran i'w chwarae, gan gynnwys Cymru.
"Dyw'r rhain ddim yn bobl sy' allan i fwynhau, mae'r rhain yn bobl sy' mewn cyflwr truenus, nifer ohonyn nhw'n blant ifanc."
Dyw polisïau mewnfudo ddim wedi'u datganoli, ac maen nhw dan reolaeth Llywodraeth y DU.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Carwyn Jones wedi ysgrifennu at Weinidog Cartref San Steffan yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn fodlon iawn i gefnogi cynllun Adleoli Pobl Fregus.
'Cyfrifoldeb'
Daw sylwadau Mr Jones yn sgil sylwadau tebyg gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ddydd Mercher, wrth i filoedd o ymfudwyr geisio cael mynediad i'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd hi y dylai Cymru "ysgwyddo rhywfaint o'r cyfrifoldeb" o ran ffoaduriaid.
"Mae gennym ni hanes o ddarparu lloches i bobl sy'n ffoi o ryfel," meddai Ms Wood, gan alw am gwota o ffoaduriaid i Gymru.
Dywedodd Ms Wood wrth BBC Radio 4 nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i ymateb i'r argyfwng.
"Fe ddylen ni allu cael datganiad ar y cyd gan bleidiau Cymru o leiaf, fyddai'n gam cyntaf i agor y drafodaeth am gymryd ein siâr," meddai.
Dywedodd ei bod yn anodd awgrymu faint o ymfudwyr y dylai Cymru dderbyn, ond ei bod wedi cefnogi syniad elusen Oxfam yn y gorffennol, fyddai'n gweld pob awdurdod lleol yn derbyn "dau neu dri" o deuluoedd o Syria, er enghraifft.
Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru, felly byddai hynny'n golygu rhwng 40 a 70 o deuluoedd o Syria yn cael lloches yng Nghymru.
'Methu ymdopi'
Mae AS Sir Fynwy David Davies wedi rhybuddio na fyddai'r Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi pe bai'r DU a gwledydd eraill yr UE yn darparu llety i'r holl ymfudwyr.
Meddai'r AS Ceidwadol Mr Davies wrth Radio Cymru: "Mae'n rhaid i ni ddweud, sori, ond os ydych chi'n ffoi rhag rhyfel mae gwersylloedd yn Nhwrci a Jordan sy'n gallu sicrhau eich diogelwch.
"Ond ni allwn ni dderbyn miloedd ar filoedd i Ewrop. Pe bai pawb yn cael eu derbyn fe fyddai'n ddiwedd ar y Gwasanaeth Iechyd, oherwydd ni allwn ni ymdopi gyda'r niferoedd."
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Medi 2015
- Published
- 30 Gorffennaf 2015
- Published
- 15 Mehefin 2015