Cadarnhau enw corff Afon Taf

Marcin Kaminski Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Aeth Marcin Kaminski ar goll ar 22 Awst ym Mhontypridd

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau enw dyn y cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Taf yng nghanol Caerdydd ddydd Llun, 31 Awst.

Yn dilyn archwiliad post mortem daeth cadarnhad mai Marcin Kaminski oedd y dyn.

Roedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Aeth Mr Kaminski, oedd yn 27 oed, ar goll ddydd Sadwrn, 22 Awst ym Mhontypridd, ond ni adroddwyd hynny i'r heddlu tan 29 Awst.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu'r De: "Yn dilyn archwiliad post mortem nid yw achos y farwolaeth wedi ei ganfod ac mae profion pellach nawr yn cael eu cynnal.

"Mae ein hymchwiliad yn ceisio sefydlu sut a phryd yr aeth Marcin i'r dŵr, ac rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am symudiadau Marcin rhwng dydd Gwener 21 Awst a dydd Sadwrn 29 Awst i gysylltu â ni drwy ffonio 101."

Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 a dyfynnu'r cyfeirnod 150317677.

Straeon perthnasol