Cynnig hwb band eang i gwmnïau
- Cyhoeddwyd

Mae grantiau o hyd at £3,000 ar gael i gynlluniau band eang ar gyfer busnesau bychain yn ninasoedd Cymru, meddai Llywodraeth y DU.
Hyd yn hyn mae dros 2,000 o gwmnïau yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe wedi derbyn cymorth.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi sefydlu cronfa o £40 miliwn ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac mae £27 miliwn o'r arian eisoes wedi ei glustnodi.
Mae Ffederasiwn Busnesau Bychain yn annog busnesau i wneud cais am y grant.
Dywedodd Alun Cairns Gweinidog y Swyddfa Cymru fod cwmnïau Cymru angen y systemau cyfathrebu orau er mwyn cystadlu yn yr economi byd eang.
"Os rydym am i fusnesau Cymru fod yn arloesol ac i lewyrchu, mae angen iddynt sicrhau'r dechnoleg cyfathrebu ddiweddaraf," meddai Mr Cairns.
"Fe fydd band eang cyflym yn caniatáu i gwmnïau o Gymru wella'r modd maen nhw'n cyfathrebu, ac felly bydd o gymorth wrth iddynt gystadlu yn y farchnad byd eang."