FIFA: Cymru ar y blaen i Loegr

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Coleman: Y chwaraewyr sy'n haeddu'r clod

Mae Cymru ar y blaen i Loegr am y tro cyntaf erioed wrth i FIFA gyhoeddi rhestr detholion timau'r byd.

Mae Cymru yn parhau yn nawfed safle o ran detholion, tra bod Lloegr yn gostwng i rif 10.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Cyprus nos Iau yn golygu mai un fuddugoliaeth arall sydd ei hangen er mwyn sicrhau lle yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

Dywedodd rheolwr Cymru Chris Coleman fod y newyddion am ddetholion FIFA yn "hwb" i'r tîm ond mai cyrraedd Euro 2016 yw mesur gwir lwyddiant.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Rhestr detholion FIFA

"Rydym wedi bod yn isel o ran y detholion yn y gorffennol, ac ar y pryd roedd nifer yn cyfeirio at hynny,

"Rwan ein bod yn gwneud yn dda, mae ambell i berson yn ceisio dweud i bwy mae'r clod, ond y chwaraewyr sy'n haeddu'r clod."

Yn Awst 2011, roedd Cymru yn safle 117 o ran detholion.

Fe allwch ddilyn holl gyffro gemau Cymru yn erbyn Cyprus nos Iau ac Israel ddydd Sul ar lif byw arbennig Cymru Fyw.