Llai yn marw oherwydd cyffuriau o gymharu â 2013
- Cyhoeddwyd

Bu farw 168 o bobl o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn 2014 yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
O'r rhai a fu farw, roedd 110 yn ddynion a 58 yn ferched.
Mae hynny'n ostyngiad o 20% ar ffigurau 2013 - pan fu farw 208 o bobl - ac yn llai na'r 224 a fu farw yn 2010 pan oedd y ffigurau ar eu huchaf.
Yn Abertawe y gwelwyd y nifer uchaf o farwolaethau rhwng 2012 a diwedd 2014 - bu farw 55 o bobl yno yn y cyfnod hwnnw. Bu farw 52 yn Rhondda Cynon Taf a 50 yng Nghaerdydd yn yr un cyfnod.
Yn Sir Fynwy y gwelwyd y nifer isaf o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau rhwng 2012 a diwedd 2014 - 5 o bobl fu farw yno.
Mae'r ffigurau yn dangos bod dynion fwy na ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na merched.