Pryder am ffigurau staffio ysbyty meddwl yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae ysbyty iechyd meddwl preifat yn sir Ddinbych wedi cael rhybudd gan arolygwyr am beidio â chydymffurfio â gofynion staffio.
Mae Plas Coch yn Llanelwy yn uned arbenigol i ferched ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, ac mae 24 o welyau yno.
Ond yn ystod archwiliad o'r safle, gwelodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar fwy nag un achlysur nad oedd unrhyw nyrs gofrestredig ar un o'r wardiau.
Bydd yr arolygiaeth yn cymryd camau yn erbyn yr ysbyty oni bai ei fod yn gwneud gwelliannau.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr bod gan y bwrdd nifer fach o gleifion yn yr ysbyty. "Mae ein staff yn monitro'r gofal a'r driniaeth a roddir i'n cleifion yn rheolaidd, ar y cyd â'r tîm amlddisgyblaeth ehanagach" meddai.