Taro a ffoi Aberpennar: Bachgen yn 'ddifrifol iawn'
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Ffordd Penrhiwceibr, Aberpennar tua 08:45 fore Iau.
Yn dilyn y digwyddiad, cludwyd bachgen 11 oed i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gan ambiwlans awyr. Dywedir bod ei gyflwr yn "ddifrifol iawn".
Mae'r heddlu yn awyddus i siarad â gyrrwr beic modur coch a welwyd yn gadael lleoliad y gwrthdrawiad yn fuan wedi'r digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.