Cyhoeddi tîm Cymru i wynebu'r Eidal ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd Sam Warburton yn dychwelyd i dîm Cymru wrth iddynt wynebu'r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn. Hon fydd gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Bydd Warburton yn arwain triawd newydd yn y cefn, wrth i James King a Taulupe Faletau ymuno â fo.

Yn y blaen, bydd y tri a wynebodd Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn diwethaf yn dechrau eto - gyda Tomas Francis yn ymuno â Gethin Jenkins a Ken Owens i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm. Bydd Jake Ball a Dominic Day y tu ôl iddyn nhw.

Bydd y bartneriaeth rhwng Rhys Webb a Dan Biggar yn dechrau eto, ond bydd newid yn y canol, gyda Cory Allen yn ymuno â Scott Williams.

George North, Alex Cuthbert a Leigh Halfpenny sy'n cwblhau'r pymtheg i wynebu'r Eidalwyr am 17:00 ddydd Sadwrn.

"Gyda'r gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd bythefnos i ffwrdd, mae'r penwythnos yma yn bywsig" meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

"Roedden ni'n hapus gyda'r perfformiad i ffwrdd o gartref yn Iwerddon penwythnos diwethaf, ond mae digon o bethau inni weithio arnyn nhw yn dilyn y fuddugoliaeth honno, felly byddwn yn ceisio rhoi'r pethau hynny yn eu lle ddydd Sadwrn."

Ar y fainc bydd Kristian Dacey, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris a Ross Moriarty i'r blaenwyr, a Gareth Davies, Rhys Priestland a Matthew Morgan i'r llinell gefn.