Mellt: Marwolaethau dau ddyn yn 'hynod anarferol'

  • Cyhoeddwyd
Robin Meakings a Jeremy Prescott
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Robin Meakings a Jeremy Prescott mewn digwyddiadau gwahanol ar yr un diwrnod ym mis Gorffennaf

Clywodd cwest yn Aberhonddu mai amgylchiadau "hynod anarferol" oedd yn gyfrifol am farwolaeth dau gerddwr gafodd eu taro gan fellt mewn dau fan gwahanol ar Fannau Brycheiniog ym mis Gorffennaf.

Roedd Jeremy Prescott a Robin Meakings yn cerdded mewn mannau dros filltir ar wahân wrth i storm symud dros y Bannau ar 5 Gorffennaf.

Dywedodd y crwner Andrew Barkley ei fod yn fodlon nad oedd yna unrhyw dystiolaeth i ddangos fod y teithiau cerdded wedi bod yn annoeth, a bod y marwolaethau o ganlyniad "i dywydd anarferol nad oedd modd ei ragweld na'i reoli".

Ychwanegodd fod marwolaethau o ganlyniad i fellt yn bethau hynod anarferol, a bod cael dau mor agos i'w gilydd hyd yn oed yn fwy anarferol.

'Ar dân'

Clywodd y cwest fod Mr Meakings, athro 59 oed o Surrey, yn addasu ei bolyn cerdded wrth baratoi i ddod lawr o gopa mynydd Cribyn pan gafodd ei daro ar ei ben gan fellten.

Dywedodd cyfaill i Mr Meakings, oedd hefyd yn defnyddio polyn cerdded, iddo gael ei daflu 20 troedfedd i'r awyr a bod ei gorff yn teimlo "ar dân, o'r tu allan a'r tu mewn".

Penderfynodd y crwner fod Mr Meakings wedi marw o ganlyniad i gael ei daro gan fellten.

Cafodd Mr Prescott, 51 oed, o Telford, Sir Amwythig ei daro ar gopa Corn Du, dau gilomedr o'r Cribyn.

Roedd Mr Prescott yn rhan o dîm yn asesu cwrs hyfforddi Dug Caeredin ar y pryd.

Clywodd y cwest i gyfaill i Mr Prescott geisio adfer curiad ei galon drwy CPR, ond yn ofer.

Disgrifiodd y crwner yr amgylchiadau fel rhai "anarferol ac unigryw".