Prif swyddog meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, yn ymddeol
- Cyhoeddwyd

Bydd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey yn ymddeol y flwyddyn nesaf, wedi bron i bedair blynedd yn y swydd.
Yn ystod ei hamser yn y swydd, fe wnaeth Dr Hussey reoli'r ymateb i achosion o'r frech goch yn Abertawe, a pharatoi am fygythiadau iechyd posib yn y dyfodol, fel Ebola.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, ei fod yn "ddiolchgar iawn" am y cyngor mae hi wedi ei roi.
Dywedodd prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bod gweithio gyda Dr Hussey yn "fraint".
Dywedodd Dr Andrew Goodall bod Dr Hussey yn "angerddol am wella gofal iechyd, yn enwedig i wella canlyniadau i bobl Cymru a delio gyda'r rol y mae tlodi yn gallu ei gymryd mewn achosi problemau iechyd".
Ym mis Ionawr, fe wnaeth Dr Hussey rannu ei hasesiad o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gyda Cymru Fyw. Roedd hi'n ceisio darogan pa fath o wasanaeth iechyd fydd yn bodoli yn ystod bywyd babi gafodd ei eni yn Ionawr 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2015