Tonnau Llanbedrog yw hoff sŵn arfordirol Prydain

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Swn tonnau yn Llanbedrog yw'r gorau ym Mhrydain yn ôl arolwg newydd

Tonnau ar draeth yng Ngwynedd yw hoff sŵn arfordirol Prydain, yn ôl arolwg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Llyfrgell Brydeinig.

Yn dilyn pleidlais gan 1,600 o bobl, sŵn y tonnau ger Trwyn Llanbedrog ddaeth i'r brig, gan guro synau plant yn chwarae, morloi yn galw at eu gilydd, ac atyniadau pier Brighton i ennill y wobr.

Cafodd y sain ei recordio ar lan y môr Llanbedrog gan Adam Long, ffotograffydd o Sheffield.

Ffynhonnell y llun, Laura Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Traeth Llanbedrog ger Pwllheli

Eglurodd Mr Long: "Rydw i wedi bod yn ymweld â'r rhan yma o ogledd Cymru sawl gwaith y flwyddyn ers i mi fod yn fachgen bach, ac rwy'n teimlo'n gartrefol iawn yma."

"Cafodd y sain ei recordio yn y gwanwyn cyn i ymwelwyr yr haf gyrraedd, roedd y môr yn hollol lonydd, ac roeddwn i yn falch i fedru cofnodi sŵn ysgafn y tonnau a'r adar yn y cefndir."

Oes 'na sŵn gwell i'w gael rhywle arall ar arfordir Cymru?

Cysylltwch gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk.