Ffoaduriaid: Sefydlu canolfannau casglu

  • Cyhoeddwyd
People on train at Budapest Railway Station hold signs saying "Save our souls"Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae canolfannau casglu yn cael eu sefydlu yng Nghymru er mwyn rhoi cymorth i filoedd o ffoaduriaid sy'n ceisio ffoi rhyfelodd gan ddod i Ewrop.

Mae'r canolfannau yn casglu pebyll, blancedi, bwyd a dillad cyn eu hanfon i Calais yn Ffrainc.

Yn Wrecsam, mae dros 400 o bobl wedi addo helpu casglu, ac mae grwpiau hefyd yn casglu yng Nghaerdydd, Casnewydd a nifer o leoliadau eraill.

Dywed trefnwyr yn nhafarn Y Lansdowne yn Nhreganna eu bod wedi dechrau casglu ar ôl gwylio adroddiadau newyddion.

Yn Wrecsam fe wnaeth Katie Wilkinson, 27 oed a'i ffrindiau ddechrau eu hapêl ar wefan Facebook.

Dywedodd eu bod wedi sefydlu tri lleoliad casglu oherwydd yr ymateb anhygoel.

"Mae'r ymateb wedi bod mor fawr, felly rŵan rydym wedi penderfynu mynd a'r nwyddau yn uniongyrchol i Calais ar 19 Medi, ac ymuno â phobl eraill o'r DU ac Ewrop mewn diwrnod i ddangos undod."

Ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'r DU yn gwneud cynlluniau i dderbyn mwy o ffoaduriaid.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi dweud fod cynghorau yn fodlon chwarae eu rhan.

Dywedodd Dyfed Edwards ar ran y Gymdeithas y gall cynghorau gynnig cymorth lle mae'r adnoddau ar gael.

Ond dywedodd Mr Edwards "na ddylai'r gost gael ei throsglwyddo i gynghorau, sydd eisoes yn wynebu toriadau llym."

Ychwaengodd y byddai angen cymorth ariannol.