Cyhuddo dyn o herwgipio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 59 oed o ardal Llaneirwg, Caerdydd, o gynllwynio i herwgipio.
Fe fydd o'n ymddangos gerbron ynadon Casnewydd ar 6 Hydref.
Cafodd ei arestio fel rhan o ymgyrch Imperial Heddlu Gwent, sef ymchwiliad i droseddau difrifol yn erbyn oedolion bregus, gan gynnwys caethwasiaeth. .