Gwrthdrawiad angheuol A55: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Ambiwlans Awyr ei alw i'r digwyddiad
Mae'r A55 yn sir y Fflint wedi ail agor yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Brychdyn.
Bu'r ffordd ynghau i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 38 (cylchfan y Posthouse) a chyffordd 35a (cylchfan yr Wyddgrug) gan achosi problemau traffig difrifol.
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 46 oed o ardal Treffynnon mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'n cael ei holi yn y ddalfa ynglyn âg achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus.
Bu farw dyn yn y fan a'r lle. a chafodd gwraig 80 oed ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.
Mae'r digwyddiad wedi achosi oedi ar nifer o ffyrdd cyfagos hefyd, gan gynnwys ffordd osgoi Wrecsam, yr A483.
Mae adroddiadau hefyd am oedi ar nifer o wasanaethau bysiau'r ardal.