Euro 2016: Ryff geid i Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
sgwad

Mae cenhedlaeth aur Chris Coleman wedi creu hanes. Bydd Cymru ymysg 24 o wledydd fydd yn cystadlu yn Euro 2016 yn Ffrainc yr haf nesa' - y tro cyntaf i'r wlad ymddangos mewn cystadleuaeth o'r fath ers Cwpan Y Byd 1958.

Ond beth am y rheiny sy'n paratoi i fynd draw yno i ddilyn Bale a'r bois? Yn dilyn cyhoeddi'r grŵp brynhawn Sadwrn, aeth Cymru Fyw ati i gynllunio ryff geid i'r ffans sydd am fentro allan i Ffrainc haf nesa':

Y grŵp

Roedd hi'n anochel y byddai Cymru'n wynebu'r hen elyn yn doedd? Bydd Chris Coleman a'i dîm yn herio Lloegr, ynghyd â Rwsia a Slofacia yng ngrŵp B.

Mae Lloegr bellach uwchben Cymru yn rhestr detholion FIFA ac yn eistedd yn y nawfed safle. Mae Rwsia yn 24 a Slofacia yn 26 ar y rhestr, tra bod Cymru yn eistedd yn safle 17.

Ail oedd Slofacia yn y grŵp rhagbrofol, pump pwynt tu ôl i deiliaid y gystadleuaeth, Sbaen. Gorffenodd Rwsia hefyd yn ail, wyth pwynt tu ôl i Awstria, tra bod Lloegr wedi llwyddo i ennill pob un o'u 10 gêm nhw - dim ond y chweched tîm i wneud hynny yn hanes y gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Cymru yn chwarae Lloegr yn Lens ar 16 Mehefin

Teithio

Un o'r pethau gorau am gynnal y bencampwriaeth yn Ffrainc i gefnogwyr Cymru yw hwylusrwydd y lleoliad. Fe all y rheiny sydd methu cael amser i ffwrdd o'r gwaith, er enghraifft, wneud y daith yno ac yn ôl mewn diwrnod i'r gêm agoriadol yn Bordeaux, gyda'r gic gyntaf am 17:00 ar ddydd Sadwrn.

Mae tocynnau trên - sy'n gallu cael eu defnyddio fwy nag unwaith dros gyfnodau pendant - yn amrywio o tua 200 ewro i oedolyn sydd eisiau ei ddefnyddio ar dri diwrnod gwahanol o fewn mis. Mae posib hedfan o fewn y wlad neu logi car.

Y dyddiadau pwysig

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 10 Mehefin tan 10 Gorffennaf. Bydd gêm gyntaf Cymru ar 11 Mehefin yn erbyn Slofacia yn Bordeaux, gyda'r gêm fawr yn erbyn Lloegr yn cael ei chwarae yn Lens bump diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd Cymru yn gorffen y grŵp gyda gêm yn erbyn Rwsia ar 20 Mehefin yn Toulouse.

'Sgen ti docyn?

Mae'r ffans sydd yn aelodau aur gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cael gwneud ceisiadau am docynnau o 11:00 ar 14 Rhagfyr.

Drwy wefan UEFA fydd y cefnogwyr yn cael tocynnau, ond gyda côd arbennig gan y Gymdeithas. Bydd y porth arbennig hwnnw ar agor i'r cefnogwyr tan 11:00 ar ddydd Llun, 18 Ionawr.

Ar gyfer y gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr, dim ond tua 5,000 o docynnau fydd ar gael i'r naill set o gefnogwyr, gyda'r 25,000 sy'n weddill wedi'u clustnodi ar gyfer bobl 'niwtral'.

Disgrifiad o’r llun,
Bydd gan Gymru gyfle i wneud yn iawn am golli yn erbyn Rwsia yn y gemau ail-gyfle ar gyfer Euro 2004

Sut mae dy Ffrangeg?

Ydych chi'n gwybod y ffordd i'r stadiwm? Savez-vous comment aller au stade de foot? [safe fw como ale ow stad dy ffwt]

Ga'i gwrw os gwelwch yn dda - Je vais prendre une bière s'il vous plaît [shy fei prondry wny bier sil fw plei]

Dwi'n sâl fel parot - Je suis écoeuré - [shy swis ecyre]

Ydych chi'n gwerthu tabledi pen tost/cur pen? - J'ai mal à la tête. Avez vous quelque chose? [shei mal a la tet. afe fw celcy shos?]

'Dyw'r gêm ddim drosodd tan i'r fenyw dew ganu - Tant qu'il y a de la vie, il y a de l'espoir! [tont cy ili a dy la fi, il i a dy lespwar]

Am ragor o wersi Ffrangeg, ewch i weld fideos Carl ac Alun ar wefan BBC Radio Cymru.

Oeddech chi'n gwybod...

Os ydych chi'n bwriadu treulio'ch holl amser yng ngwinllanoedd enwog Ffrainc haf nesa', dyma i chi ambell ffaith am y dinasoedd dan sylw.

Mae rhan fwyaf o ddinas Bordeaux wedi derbyn anrhydedd Safle Treftadaeth y Byd, ac yn gynharach eleni enillodd wobr European Best Destination. Mae'n cael ei ystyried fel un o brif ardaloedd diwydiant gwin y byd.

Poblogaeth o tua 30,000 mil yn unig sydd gan Lens ac yma fydd Cymru yn herio Lloegr ar 16 Mehefin, gyda'r stadiwm yn dal 35,000.

Toulouse yw canolfan diwydiant aerofod Ewrop ac yma mae pencadlys Airbus a chwmnïau tebyg. Mae ganddi boblogaeth o bron i hanner miliwn.

Bon Voyage a phob lwc Cymru!

Disgrifiad o’r llun,
Un o amryw o winllanoedd sydd i'w cael yn Bordeaux