Corau Hywel Llanelli yn aduno ar ôl damwain drasig
- Cyhoeddwyd

Mae damwain car drasig wedi bod yn gatalydd i gyn-aelodau corau Merched Hywel a Bechgyn Hywel yn Llanelli i aduno ar gyfer perfformiad arbennig.
Fe gafodd y cyn-arweinydd John Hywel ei anafu'n ddrwg, a bu farw ei wraig a'r bianyddes, Jean Hywel, mewn damwain car.
Fe ddigwyddodd y ddamwain o fewn munudau iddyn nhw adael y llwyfan yn dilyn cyngerdd Diwrnod Dathlu Buddugoliaeth yn Ewrop ym mis Mai.
Mae dros 300 o gantorion a pherfformwyr yn cynllunio aduniad ar gyfer mis Rhagfyr, sydd wedi gwerthu allan yn barod.
Mr Hywel fu'n gyfrifol am sefydlu'r côr dros 60 mlynedd yn ôl, ac fe wnaeth gyfarfod ei wraig pan wnaeth hi fynychu clyweliad i fod yn bianydd yn y 50au.
Mae wedi dysgu dros 8,000 o ddisgyblion a chantorion.
Bydd aelodau'r corau o'r chwe degawd diwethaf yn cymryd rhan yn y gyngerdd, ynghyd â chyn-enillwyr Eurovision, Brotherhood of Man.
Bydd derbyniad yn cael ei gynnal yng Nghastell y Strade ddydd Sadwrn cyn y gyngerdd yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli ar 19 Rhagfyr.