Connacht 29-23 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Connacht selio buddugoliaeth o 29-23 dros y Dreigiau yn Stadiwm Galway nos Wener diolch i gais Fionn Carr yn y munudau olaf.
Ond roedd cic gosb Tom Prydie yn y munud olaf yn ddigon i ennill pwynt bonws i'r Dreigiau.
Fe wnaeth y tîm cartref fanteisio o nifer o gamgymeriadau gan y Dreigiau, wrth i'r mewnwr Sarel Pretorius a'r eilydd James Thomas drosi.
Nepia Fox-Matamua a Danie Poolman sgoriodd geisiau eraill Connacht.
Fe wnaeth Jack Carty gicio 14 pwynt i'r Gwyddelod, gyda Jason Tovey yn ymateb gyda 10 pwynt ei hun i'r Dreigiau.
Timau
Connacht: Tiernan O'Halloran; Danie Poolman, Rory Parata, Bundee Aki, Matt Healy; Jack Carty, Kieran Marmion; Denis Buckley, Tom McCartney, Rodney Ah You, Quinn Roux, Andrew Browne, John Muldoon (capten), Nepia Fox-Matamua, Eoghan Masterson
Eilyddion: Dave Heffernan, JP Cooney, Finlay Bealham, Ben Marshall, Eoin McKeon, John Cooney, Craig Ronaldson, Fionn Carr
Dreigiau: Meyer, Prydie, Wardle, Warren, Scott, Tovey, Pretorius; Stankovich, TR Thomas (capten), Knight, Hill, Landman, Crosswell, Cudd, Jackson.
Eilyddion: Gustafson, Price, Harris, J Thomas, Benjamin, C Davies, D Jones, Morgan.