Ulster 28-6 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Ex-Wales back-row Gareth Delve was unable to inspire Opreys in Ulster on his debutFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth y Gweilch ddechrau eu hymgyrch yn y PRO12 eleni wrth gael cweir o 28-6 yn erbyn Ulster yn Stadiwm Kingspan nos Wener.

Roedd Ulster yn rhy gryf o lawer i'r Gweilch, wrth i'r canolwr Stuart McCloskey sicrhau cais ynghyd a Rob Herring a Wiehahn Herbst.

Fe wnaeth cais Luke Marshall selio pwynt bonwr i'r tîm cartref yn y munud olaf.

Roedd cyn-chwaraewr Cymru Gareth Delve yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch, ond ni chafodd unrhyw lwyddiant wrth i Ulster reoli'r chwarae.

Ni chafodd achos yr ymwelwyr ei helpu wrth i Joe Bearman weld cerdyn melyn yn yr hanner cyntaf.

Timau

Ulster: Louis Ludik; Andrew Trimble, Luke Marshall, Stuart McCloskey, Craig Gilroy; Peter Nelson, Paul Marshall; Andrew Warwick, Rob Herring (capten), Wiehahn Herbst; Dan Tuohy, Franco van der Merwe; Roger Wilson, Willie Faloon, Nick Williams

Eilyddion: John Andrew, Ricky Lutton, Bronson Ross, Peter Browne, Clive Ross, Sean Reidy, David Shanahan, Sam Arnold.

Gweilch: Dan Evans; Kristian Phillips, Jonathan Spratt, Ben John, Tom Grabham; Sam Davies, Tom Habberfield; Marc Thomas, Sam Parry, Dmitri Arhip, Lloyd Ashley (capten), De Kock Steenkamp, Joe Bearman, Lloyd Evans, Gareth Delve.

Eilyddion: Scott Otten, Nicky Smith, Cai Griffiths, Rory Thornton, Dan Baker, Sam Underhill, Brendon Leonard, Ashley Beck.