BBC Cymru Fyw

Tour of Britain yn dechrau o Ynys Môn

Published
image copyrightGetty Images
image captionBydd Mark Cavendish yn gobeithio am lwyddiant gyda thîm Etixx-Quick Step
Bydd ras seiclo'r Tour of Britain yn dechrau yng Nghymru am y tro cyntaf ddydd Sul.
Ynys Môn fydd yr ynys gyntaf i gynnal dechrau'r ras, fydd yn pasio trwy Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Bydd y 120 o seiclwyr wedyn yn gweithio eu ffordd trwy Cumbria, Yr Alban, Northumberland a'r Peak District cyn gorffen yn Llundain.
Dywedodd cyfarwyddwr y ras, Mick Bennett, y byddai'r llwybr yn arddangos "golygfeydd anhygoel" gogledd Cymru.
"Ry'n ni'n gwybod y byddan ni'n cael croeso cynnes ar hyd y llwybr o Ynys Môn i Wrecsam," meddai.