Ymosodiad Caernarfon: Dyn yn y llys am geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Dân CaernarfonFfynhonnell y llun, geograph.org.uk
Disgrifiad o’r llun,
Galwyd yr heddlu ardal Cefn Cadnant ger gorsaf dân Caernarfon fore Iau

Mae dyn 46 oed o Gaernarfon wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wedi i ddynes ddioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad yn y dref fore Iau.

Fe fydd Sylvan Maurice Parry, sydd wedi ei gadw yn y ddalfa yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ddydd Sadwrn.

Mae adroddiadau yn lleol yn dweud mai partner Mr Parry, Fiona Parry, 40 oed a mam i bump o blant, gafodd ei hanafu yn yr ymosodiad.

Galwyd yr heddlu ychydig ar ôl 09:00 i ardal Cefn Cadnant, ger gorsaf dân Caernarfon.

Roedd y ddynes wedi dioddef yr hyn a ddisgrifiwyd fel "anafiadau difrifol", a galwyd ambiwlans awyr i'w chludo i'r ysbyty yn Stoke.