Darganfod corff yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu oedd yn chwilio am ddyn 64 oed oedd ar goll yn Eryri wedi dod o hyd i'w gorff.
Fe gafodd Stephen Longfellow, o Leeds, ei weld am y tro diwethaf ar ddydd Sul 30 Awst pan siaradodd gyda cherddwyr yn Llanfihangel y Pennant, Gwynedd.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth yr heddlu o hyd i'w gar ger mynydd Tryfan.
Daethpwyd o hyd i'w gorff ddydd Sadwrn, cyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor er mwyn iddo gael ei adnabod yn ffurfiol.
Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.