Gwrthdrawiad Swistir: teithwyr yn dychwelyd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
bwsFfynhonnell y llun, Luzerner Polizei

Mae 34 o'r teithwyr a oedd ar fws a fu mewn gwrthdrawiad yn y Swistir ar eu ffordd yn ôl i Gymru, yn ôl Jason Edwards, un o gyfarwyddwyr cwmni bysiau Edwards o Bontypridd.

Anafwyd 41 o bobl - a phedwar ohonynt yn ddifrifol - ar ôl i'r bws fod mewn gwrthdrawiad gyda phedair lori tua 25 milltir o Zurich am 11:15 ddydd Iau.

Roedd 39 o deithwyr ar y bws, a oedd yn dychwelyd i dde Cymru o'r Eidal.

Yn ôl Denise Wilkie o Gaerffili, bydd ei brawd Phillip Bullock - un o'r gyrwyr - yn derbyn llawdriniaeth ar anaf i'w goes ddydd Llun.

Dywedodd Jason Edwards bod pump o bobl yn dal yn yr ysbyty.

Roedd y bws yn dychwelyd o daith o amgylch Llyn Como yn yr Eidal.

Dywedodd yr heddlu yn Lucerne bod 20 o ambiwlansys a thri hofrennydd wedi cael eu defnyddio i gludo pobl i'r ysbyty.

Maent yn dweud bod yr ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.