Gwyl Rhif 6: Yr arlwy eleni

  • Cyhoeddwyd
portmeirion
Disgrifiad o’r llun,
Fe adeiladwyd Portmeirion gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis

Lleisiau, nid llestri, sy'n dod a'r dorf i Bortmeirion y penwythnos hwn.

O furiau'r castell ar y bryn, i lannau'r Afon Dwyryd, mae Gŵyl Rhif 6 wedi hawlio pob cornel o'r pentref.

Wrth gwrs mae'r perfformwyr byd-enwog yn cipio'r penawdau, a'r prif lwyfannau.

Ond wrth grwydro caeau'r ŵyl a strydoedd Eidalaidd y pentref, mae 'na lu o ddigwyddiadau i ddal sylw'r ymwelwyr, ac mae'r Gymraeg yn bachu lle amlwg yn eu plith.

Er y glaw man nos Wener, Côr y Brythoniaid ddaeth o Flaenau Ffestiniog i Sgwâr Canolog Portmeirion gyda chymysgedd o hen ffefrynnau Cymreig ac ambell i fersiwn corawl o gân bop amlwg. Mae ymweliad y Côr a'r ŵyl yn draddodiad blynyddol, ers iddyn nhw fod ymhlith perfformwyr yr ŵyl gyntaf yn 2012.

Disgrifiad o’r llun,
Mae wedi dod yn dipyn o draddodiad i Gôr y Brythoniaid berfformio yn yr ŵyl

Yr awdures leol, Jan Morris dalodd teyrnged i bentref yr ŵyl mewn araith llawn clod am adeiladau Portmeirion, ac am y dylunydd a'r pensaer Syr Clough Williams-Ellis.

"Mae beth greodd ef yma yn fendigedig," dwedodd Jan Morris wrtha i ar ôl annerch y dorf prynhawn ddydd Gwener.

"Roedd ganddo bwrpas difrifol - i ddangos bod modd creu rhywbeth prydferth ar dir prydferth, heb fod yn niwsans i'r dirwedd yna, heb ei sbwylio hi."

A fyddai Syr Clough wedi cefnogi'r ŵyl?

"O, rwy'n siŵr y byddai fe wedi, gan yr oedd e'n hoff iawn o bethau disglair, a bach o swanc!"

Nid y disglair, ond y drygioni, oedd testun perfformiad y nofelydd Irvine Welsh ychydig oriau ar ôl ymweliad Jan Morris.

Disgrifiad o’r llun,
Yr artist Badly Drawn Boy yn perfformio ar un o lwyfannau'r ŵyl

Darllenodd yr Albanwr o'i nofel newydd, A Decent Ride, sy'n trafod hanes dyn tacsi o Gaeredin sy'n byw bywyd yr un mor lliwgar â sgitsoffrenaidd a rhai o gymeriadau ei nofel gyntaf, Trainspotting.

Er i Irvine Welsh fyw yn Chicago erbyn hyn, mae ganddo ddigon i ddweud am hanes cyfoes ei wlad enedigol. Gwaddod yr ymgyrch am annibyniaeth y llynedd sydd y tu ôl i lwyddiant Jeremy Corbyn yn y ras i arwain y blaid Lafur, meddai wrth iddo gael ei holi ar ôl ei ddarlleniad. Cymeriadau ar yr ymylon sy'n ei ymddiddori, boed iddyn nhw fod yn ffuglen ta'n ffeithiol.

Wrth i Irvine Welsh adael ei lwyfan, pen arall y pentref mae'r DJ Mark Ronson yn denu'r dorf i gae'r Castell am barti fydd yn para'n hwyr.

Ynghyd a'r diwylliant a'r gerddoriaeth, mae perfformiadau syrcas, sesiynau ioga a theyrngedau dyddiol i'r rhaglen deledu The Prisoner. Mae Gŵyl Rhif 6 yn ŵyl heb ei ail, ac yn llwyddo bachu lle amlwg ar restr gwyliau blaenllaw Prydain.

Disgrifiad o’r llun,
Y gynulleidfa yn mwynhau'r arlwy ar sgwar y pentref