Buddugoliaeth i Gymru, ond pryder am anafiadau
- Cyhoeddwyd

Fe all Cymru fod heb Leigh Halfpenny a Rhys Webb yn ystod Cwpan y Byd, wedi i'r ddau orfod gadael y cae yn ystod y fuddugoliaeth o 23-19 yn erbyn yr Eidal.
Fe ddioddefodd Webb, anaf i'w ffêr chwith yn ystod yr hanner cyntaf yng Nghaerdydd, ac mae'n ymddangos fod Halfpenny wedi niweidio ei ben-glin dde yn ystod 10 munud olaf y gêm.
Fe sgoriodd Leonardo Sarto a Lorenzo Palazzani geisiau i'r Eidal, gyda George North yn llorio'r bêl dros y llinell i Gymru.
Ond gyda thair wythnos i fynd cyn y bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd, bydd yr anafiadau yn cael llawer mwy o effaith na gaiff canlyniad y gêm 'ddifflach' a 'digyswllt' yma.
Cyn iddo gael ei anafu, fe giciodd Halfpenny bum cic cosb i Gymru ,gan ddod y trydydd chwaraewr i basio 500 o bwyntiau dros Gymru.
Fe ddechreuodd Cymru yn wael ar y cyfan wrth i Sergio Parisse ryng-gipio pas gan Alex Cuthbert, a dod ag ymgais cyntaf Cymru i sgorio yn yr ail funud i ben, gydag wythwr yr Eidal yn y cael ei dynnu i'r llawr ychydig lathenni o flaen y llinell.
Fe fanteisiodd Leonardo Sarto ar fwlch yn rheng ôl Cymru, ac fe sgoriodd dros yr ymwelwyr.
Fe fwriodd y tîm cartref yn ôl, gyda chais gwych gan George North ac yna cic gosb Halfpenny.
Chwaraeodd Cymru yn fwy ceidwadol ar ôl yr egwyl gyda Halfpenny yn ychwanegu pedwar o giciau cosb cyn gadael y cae, ac fe drosodd Dan Biggar un gic gosb.
Daeth un ddrama arall cyn y chwiban olaf wrth i Lorenzo Palazzani groesi'r llinell gais a chau'r bwlch rhwng y ddau dîm i bedwar pwynt yn unig.