Achub person o dân mewn tŷ
- Published
Mae un person wedi cael eu hachub o dân mewn tŷ yng ngorllewin Cymru.
Fe gafodd criwiau eu galw i Fryngwyn, yng Nghastell Newydd Emlyn, ychydig cyn 05:00 fore Llun, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Fe ddaeth criwiau o ddiffoddwyr tân o Gastell Newydd Emlyn, Aberteifi a Llandysul. i ddelio â'r tân, sydd wedi achosi difrod sylweddol i'r tŷ.