TGAU: Disgyblion Cymru i ddechrau ar ail gymhwyster
- Cyhoeddwyd
O ddydd Llun fe fydd disgyblion yn dechrau dysgu ail gymhwyster TGAU mewn mathemateg, sy'n canolbwyntio ar rifedd, a hynny fel rhan o broses sy'n ailwampio cymwysterau yng Nghymru.
Fe fydd cymwysterau TGAU newydd eraill yn cael eu cyflwyno hefyd yng Nghymru yn unig, a hynny mewn pynciau Saesneg a Chymraeg ac fe fydd arholiadau Safon Uwch a chymwysterau AS hefyd yn cael eu gwedd newid.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis ei fod yn "amser cyffrous ym myd addysg".
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod yn "pryderu'n fawr" am benderfyniad llywodraeth Cymru i sefydlu cymwysterau TGAU ar gyfer Cymru'n unig.
Mae undeb yr ATL hefyd yn dweud y bydd y newidiadau yn arwain at gwricwlwm orlawn a allai effeithio ar bynciau dewisol megis Ffrangeg, Daearyddiaeth a Hanes.
Dywedodd Mr Lewis: "Mae'n hanfodol bod ein hysgolion, system addysgu ac arholiadau, yn gyfoes ac yn cystadlu yn y byd modern, ac mae'r newidiadau rydym yn eu cyflwyno'r tymor hwn yn rhoi mantais i ddisgyblion Cymru, o ran sgiliau a bod yn barod ar gyfer y byd gwaith.
"Mae heddiw hefyd yn ddiwrnod da i gyflogwyr ledled Cymru.
"Buom yn gweithio'n agos gyda nhw wrth ddatblygu'r cymwysterau newydd, rydym wedi gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud, ac rydym wedi cyflwyno cymwysterau sy'n ateb yr anghenion hynny."