Galwad i ailystyried gwaith ar yr M4
- Published
Mae grwpiau ymgyrchu amgylcheddol a bywyd gwyllt wedi anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw iddyn nhw ailystyried eu cynlluniau gwerth £1 biliwn ar gyfer lliniaru ffordd yr M4 o amgylch Casnewydd.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru, RSPB Cymru ac wyth o grwpiau eraill am i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ddod o hyd "i atebion mwy arloesol ar gyfer trin tagfeydd".
Dywedodd y Llywodraeth fod y prosiect ffordd yn "hanfodol bwysig i ffyniant economaidd Cymru".
Mae'r llythyr yn cyd-fynd â dechrau'r ymgynghoriad cyhoeddus am y cynlluniau.
Mae ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y cynigion, yn debygol o ddechrau yn 2016.