Asiantaethau yn chwilio am ddynes ar goll yng Ngwbert

  • Cyhoeddwyd
Myfanwy HortonFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain y chwilio am ddynes 73 oed sydd ar goll yn ardal Gwbert ers nos Sadwrn.

Nid yw Mrs Myfanwy Horton o Gilgerran, Ceredigion wedi'i gweld ers iddi adael gwesty'r Cliff am 17:00 i fynd am dro.

Mae'r gwasanaeth tân ac achub, gwylwyr y glannau a'r tîm achub mynydd lleol hefyd yn rhan o'r chwilio.

Mae Mrs Horton yn 5 troedfedd 6 modfedd, yn denau ac mae ganddi wallt tywyll. Pan welwyd hi ddiwethaf, roedd hi'n gwisgo het a chôt ysgafn olau. Mae'n gwisgo sbectol.

Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.