Leanne Wood: "Gall Plaid Cymru wireddu potensial Cymru"
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn dweud bod Llafur wedi llywyddu dros "16 mlynedd sydd wedi eu gwastraffu".
Wrth lansio ymgynghoriad polisi ei phlaid o flaen etholiadau'r Cynulliad fis Mai'r flwyddyn nesaf, mae disgwyl y bydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn dweud bod Llafur wedi llywyddu dros "16 mlynedd sydd wedi eu gwastraffu" a bod yr amser wedi dod i roi terfyn ar eu harferiad o reoli dirywiad yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd Ms Wood yn dweud bod y ddegawd a hanner ddiwethaf yn cynrychioli'r cyfle mwyaf gafodd ei golli yn hanes diweddar Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru y bydd pobl yn "crafu eu pennau" wrth glywed sylwadau Leanne Wood.
Mae sefyllfa Cymru o ran yr economi, addysg ac iechyd yn dangos nad yw'r optimistiaeth a ddaeth yn sgil datganoli yn cael ei wireddu.
"Roeddem i fod i weld dechrau newydd ar gyfer ein gwlad" meddai Ms Wood, "ond mae'n deg i ddweud bod y 16 mlynedd ddiwethaf wedi cael eu gwastraffu. Maen nhw wedi gwastraffu cyfle euraid yn hanes modern Cymru."
Bydd Ms Wood yn dweud bod newid llywodraeth ym mis Mai yn hanfodol.
"Gall llywodraeth Blaid Cymru adfer hyder yn ein cenedl," yw ei neges.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Diolch i'r ffaith fod Llafur Cymru wedi bod mewn llywodraeth, mae Cymru wedi gwneud camau breision", meddai. "Mae diweithdra yn cwympo yn gyflymach yma nag yng ngweddill y DU o ganlyniad i'n cefnogaeth ni i fusnesau bach ac i'n gwaith ni yn denu cyflogwyr mawr i Gymru".