Dynes oedd ar goll yn "fyw ac yn iach" yn ôl yr heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod Myfanwy Horton wedi'i darganfod yn "fyw ac yn iach" brynhawn Sul.
Doedd neb wedi gweld Mrs Horton, sy'n 73 oed ac yn byw yng Nghilgerran, Ceredigion ers tua 17:00 ddydd Sadwrn.
Ond cadarnhaodd yr heddlu ei bod wedi'i darganfod yn ddiogel am 15:00 ddydd Sul.