Protestiadau yng Nghaerdydd cyn gêm Cymru ac Israel
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr Palesteina ac Israel wedi bod yn cynnal dwy brotest yng Nghaerdydd cyn y gêm rhwng Cymru ac Israel yng nghystadleuaeth Euro 2016.
Roedd tua 700 o brotestwyr ar orymdaith o Neuadd y Ddinas i Stadiwm Dinas Caerdydd i ddangos eu cefnogaeth i Balesteina.
Yn ôl y trefnwyr, mae'r gêm yn cael ei defnyddio i ddod â phenawdau ffafriol i Israel.
Ond ar yr un pryd, roedd criw llai o brotestwyr a oedd yn gefnogol i Israel yn cynnal gwrthbrotest y tu allan i'r stadiwm.
Trefnwyd y brotest o blaid Palesteina gan Fair Play for Palestine, sy'n galw ar Fifa i ddiarddel Israel.
Ond dywedodd Arieh Miller o'r Zionist Federation - un o'r grwpiau a drefnodd yr wrthbrotest - mai eu nod nhw oedd "dangos yr Israel go iawn".
"Mae'n bwysig bod holl bobl Israel - aelodau'r tîm a'r cefnogwyr - yn teimlo bod croeso iddyn nhw yng Nghaerdydd ac yng Nghymru," meddai.