Rhys Webb yn diolch i gefnogwyr Cymru am ddymuno'n dda

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Rhys Webb wedi defnyddio'i gyfrif Twitter i ddiolch i gefnogwyr Cymru am eu dymuniadau gorau wedi iddo gael ei anafu yn ystod gêm Cymru yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn.

Anafodd chwaraewr y Gweilch ei ffer yn ystod hanner cyntaf y gêm yn Stadiwm y Mileniwm. Er nad oes cyhoeddiad wedi'i wneud eto ynglŷn ag union natur yr anaf, mae pryder y gallai olygu na fydd Webb ar gael i chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

Cludwyd Webb i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn y gêm. Cymru enillodd yr ornest - gan guro'r Eidalwyr 23-19.

Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud nad yw Webb wedi torri unrhyw asgwrn ond y gallai fod wedi niweidio ligament.

Yn ystod y gêm, cafodd Leigh Halfpenny ei gludo oddi ar y maes hefyd, wedi iddo anafu ei ben-glin, a bydd cefnogwyr yn gobeithio'i weld o'n ffit i chwarae yn y gystadleuaeth.

Bydd Cymru yn chwarae ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Uruguay yng Nghaerdydd ar 20 Medi, cyn iddyn nhw wynebu Lloegr, Ffiji ac Awstralia yng ngweddill gemau'r pŵl.