Teyrnged Catherine i'r Elyrch
- Cyhoeddwyd

Yr elyrch y mae'r actores wedi eu prynu
Mae Catherine Zeta Jones wedi dangos ei balchder yn llwyddiant diweddar clwb pêl-droed Dinas Abertawe, trwy brynu elyrch ar gyfer ei phwll nofio yn ei chartref yn Efrog Newydd.
Ond fydd dim angen bwydo'r rhain, gan mai elyrch plastig ydyn nhw.
Cyhoeddodd yr actores o Abertawe lun o'r adar ar Instagram, wedi i'r Elyrch guro Manchester United o 2-1.
"Fe gurodd fy nhîm i Manchester United o 2-1 gartref yr wythnos ddiwethaf," meddai.
"I'w hanrhydeddu, ry'm ni wedi mabwysiadu teulu o elyrch - sydd bellach yn byw'n hapus yn ein pwll nofio. Ewch amdani, Elyrch!!!"