Halfpenny allan o Gwpan Rygbi'r Byd

  • Cyhoeddwyd
anafFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau na fydd y cefnwr Leigh Halfpenny ar gael i chwarae yng Nghwpan y Byd oherwydd anaf.

Cafodd Halfpenny ei gario o'r maes yn y gêm yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd yr Undeb bod Halfpenny wedi diodde' anaf i dennyn croesffurf ei ben-glin (ACL).

Deellir bod yr undeb yn disgwyl am ganlyniadau profion i anaf y mewnwr Rhys Webb cyn gwneud cyhoeddiadau pellach am y garfan.