Uwchgynhadledd i drafod ffoaduriaid
- Published
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi y bydd cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal wythnos nesa i drafod argyfwng y ffoaduriaid.
Daeth y cyhoeddiad ar y diwrnod wnaeth prif weinidog Prydain David Cameron gyhoeddi y bydd hyd at 20,000 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches o Syria yn cael eu derbyn i Brydain erbyn 2020.
Bydd y ffoaduriaid yn dod o wersylloedd ar ffin Syria yn hytrach na'r ffoaduriaid sydd eisoes wedi teithio i Ewrop.
Mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dweud eu bod yn fodlon "chwarae eu rhan" ond fod angen cymorth ariannol gyda'r gost ychwanegol.
Dywed Llywodraeth Cymru y dylai llywodraeth y DU dalu, gan nad yw'r mater wedi ei ddatganoli.
Mae disgwyl i gynrychiolwyr elusennau a llywodraeth leol fynychu'r uwchgynhadledd.
Dyw'r lleoliad na'r dyddiad ddim wedi eu cadarnhau eto.
Mae disgwyl y bydd Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, a Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yn mynychu'r gynhadledd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r bwriad yw sicrhau bod yr ymateb i'r broblem yn cael ei chydlynu.