Lladd Jihadydd: Galw am fanylion

  • Cyhoeddwyd
ISIL
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Reyaad Khan ymddangos mewn fideo gan eithafwyr Islamaidd

Mae'r Prif Weinidog David Cameron yn wynebu cwestiynau ynglŷn ag ar ba sail gyfreithiol y penderfynodd y llywodraeth roi caniatâd i awyren ddi-beilot gynnal ymosodiad yn Syria, a laddodd ddau Brydeiniwr.

Roedd Reyaad Khan, 21 oed o Gaerdydd a Ruhul Amin o'r Alban wedi ymuno â mudiad IS.

Hwn yw'r ymosodiad cyntaf o'i fath gan ddefnyddio awyren di-beilot yn erbyn dinesyddion o Brydain.

Yn ôl y prif weinidog roedd y weithred yn erbyn Khan yn un o hunan amddiffyn.

Mae rhai yn anhapus gan fod aelodau seneddol wedi pleidleisio ddwy flynedd yn ôl yn erbyn unrhyw weithredu milwrol yn Syria.

Mae'r blaid Lafur yn galw ar y llywodraeth i gyhoeddi'r dystiolaeth gyfreithiol ar gyfer yr ymosodiad.

Mae Saleem Kidwai, ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Mwslim Cymru, yn dweud fod y gymuned Fwslemaidd yn y brifddinas am gael gwybod mwy am y wybodaeth wnaeth arwain at yr ymosodiad

Ar Raglen Dylan Jones BBC Radio Cymru dywedodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, fod penderfyniadu o'r fath yn anodd, ond bod angen mwy o wybodaeth cyn gallu beirniadu.

Disgrifiad,

Ann Clwyd AS yn cael ei holi ar Raglen Dylan Jones

Yn ôl aelod seneddol teulu Reyaad Khan, Kevin Brennan, Gorllewin Caerdydd, roedd yna deimlad fod ei farwolaeth yn anochel.

"Ond roedd Tŷ'r Cyffredin wedi cael ychydig o syndod o natur ei farwolaeth gan awyren di-beilot yn Syria ac felly fe fydd yna nifer o gwestiynau bydd aelodau seneddol am ofyn , a finnau hefyd fel ei aelod seneddol."

Ychwanegodd ei fod am i Mr Cameron egluro yn fanwl beth oedd union fygythiad Khan.

Ddydd Llun dywedodd Mr Cameron yn Nhŷ'r Cyffredin fod Khan wedi ei ladd ar 21 Awst a hynny'n dilyn cyfnod o "gynllunio manwl."

Ychwanegodd fod Khan wedi bod yn cynllunio ymosodiad barbaraidd ar dargedau yn y DU.

Yn ôl Mr Cameron roedd y llywodraeth wedi cysylltu â'r Twrne Cyffredinol cyn yr ymosodiad, a'i fod ef yn fodlon bod yna gyfiawnhad cyfreithiol i'r ymosodiad.

Mae'r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon hefyd wedi amddiffyn y penderfyniad, gan ychwanegu y byddai ymosodiadau o'r fath yn gallu digwydd eto.

"Pe bai ni yn ymwybodol o ymosodiadau yn y dyfodol, a bod ddim modd o'u hatal, mae'n rhaid i ni wneud yr hyn sy'n angenrheidiol."

Credir fod Reyaad Khan wedi teithio i Syria ar ddiwedd 2013. Ymddangosodd mewn fideo propaganda gan IS wrth ochr ei gyfaill Nasser Muthana sydd hefyd o Gaerdydd.