Rhys Webb allan o Gwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Rhys WebbFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi na fydd Rhys Webb ar gael ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Dywed yr Undeb ei fod wedi dioddef "anaf sylweddol" i'w droed a bydd angen asesiad ac archwiliad ar ei droed a'i ben-glin cyn bod modd cyhoeddi mwy o fanylion.

Mae'r mewnwr Mike Philips a'r asgellwr Eli Walker wedi cael eu hychwanegu at garfan Cymru.

Anafodd Webb ei droed yn ystod hanner cyntaf y gêm yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Hefyd yn y gem hono fe gafodd Leigh Halfpenny anaf difrifol i'w ben-glin a bydd o hefyd yn colli'r gystadleuaeth.

Y gêm oedd yr olaf o dair gem ragbrofol wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Uruguay ar 20 Medi.

Dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland: "Mae'n hynod o siomedig i golli'rddau, Leigh a Rhys.

"Mae'r ddau wedi gweithio yn galed ar gyfer y gystadleuaeth ac i ennill statws ar lwyfan y byd, a dwi'n gobeithio'r gorau i'r ddau wrth iddynt wella o'u hanafiadau."

"Ar ôl cyhoeddi'r garfan roeddwn wedi son wrth y chwaraewyr i barhau i fod yn barod ac ar gael, ac mae hwn yn gyfle gwych i Mike a Eli."

"Mae profiad Mike yn fonws i'r garfan, ac mae Eli yn dalent gyffrous."