Teyrnged i ddyn fu farw ar yr A55
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55 ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw William Dudley Owen, 81 oed o'r Wyddgrug, yn y digwyddiad.
Cafodd dynes 80 oed ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi'r gwrthdrawiad rhwng lori, fan transit a char Citroen Picasso ger y ffin â Lloegr.
Fe gafodd dyn 46 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus cyn ael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi datganiad gan deulu Mr Owen:
"Roedd yn ddyn teuluol oedd newydd ddathlu pen-blwydd priodas 57 mlynedd gyda'i briod Iris Rosemary Owen. Mae'n gadael pedwar o blant, wyth o wyrion a phedwar o or-wyrion.
"Roedd yn gefnogwr rygbi brwd ac yn dilyn y timau lleol yn Yr Wyddgrug.
"Hoffai'r teulu ddiolch o galon i yrrwr y fan arhosodd i gynnig cymorth wedi'r digwyddiad ac i'r fenyw fu'n helpu Rosemary yn syth wedi'r gwrthdrawiad wrth aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd."
Mae Heddlu Sir Gaer yn apelio am dystion i'r digwyddiad ac yn gofyn i bobl ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 297 ar 4 Medi, 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2015