Jihadydd: Gwleidyddion yn mynnu atebion

  • Cyhoeddwyd
ISIL
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Reyaad Khan ymddangos yn fideo eithafwyr Islamaidd

Yr wythnos ddiwethaf roedd yna adroddiadau bod Reyaad Khan, y cyn-fyfyriwr o Gaerdydd aeth i frwydro i'r grŵp sy'n cael eu hadnabod fel y Wladwriaeth Islamaidd (IS), wedi marw.

Ddoe fe gadarnhaodd y prif weinidog hynny ac mai'r Awyrlu Prydeinig oedd yn gyfrifol - dyma'r ymosodiad cyntaf o'i fath yn erbyn dinasyddion o Brydain pan nad yw'n rhan o ryfel.

Ers y cyhoeddiad mae'r galw am atebion wedi cynyddu.

O ystyried bod Aelodau Seneddol ddwy flynedd yn ôl wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu milwrol yn Syria yn erbyn IS, mae yna fwyfwy o gwestiynau yn San Steffan ynghylch cyfreithlondeb y weithred.

'Tanseilio'

"Mae'n siomedig bod y Prif Weinidog wedi tanseilio ewyllys glir y Senedd," meddai llefarydd amddiffyn Plaid Cymru Hywel Williams AS, sydd wedi galw ar David Cameron i esbonio cyfiawnhad cyfreithiol y weithred.

Mae Stephen Doughty, AS Llafur dros De Caerdydd a Phenarth, wedi dweud y byddai angen i'r llywodraeth gyflwyno "achos clir" i gyfiawnhau'r weithred.

Mae e a'i gyd-aelod Llafur yng Nghaerdydd, Kevin Brennan, wedi galw am gyfarfod â'r prif weinidog i drafod y mater.

Roedd marwolaeth y Jihadydd yn "anochel," meddai Mr Brennan, AS teulu Reyaad Khan, ond mae e am i Mr Cameron egluro'n fanwl beth oedd union fygythiad Khan.

Mae e hefyd yn adleisio galwad ei blaid a'r SNP bod angen ail-sefydlu pwyllgor cudd-wybodaeth a diogelwch yn y Senedd sy'n gallu cynnal ymchwiliad o'r achos.

'Hunan-amddiffyn'

Ond yn y Senedd mae Mr Cameron wedi mynnu mai gweithred "hunan amddiffyn" oedd hyn gan fod Reyaad Khan wedi bod yn cynllunio ymosodiad barbaraidd ar dargedau yn y DU.

Mae'r Arglwydd Carlile, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yn cytuno bod yna gyfiawnhad cyfreithiol.

Yn ôl y gŵr oedd yn adolygydd annibynnol o reolau gwrthderfysgaeth Prydain, mae'r ffaith nag yw IS wedi gwadu'r hyn oedd Mr Cameron yn honni yn "dystiolaeth lethol eu bod yn bwriadu gwneud hynny, ac felly mae'r weithred filwrol, er yn gymharol anarferol, o fewn cyfraith ryngwladol."

Mae'r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon wedi amddiffyn y penderfyniad, gan ychwanegu y byddai bygythiadau tebyg yn y dyfodol yn cyfiawnhau ymosodiadau pellach o'r fath.

'Dim opsiwn'

Yn ôl Glyn Davies, AS y Ceidwadwr dros Sir Drefaldwyn: "Doedd dim opsiwn gan y prif weinidog. Prif gyfrifoldeb y prif weinidog yw amddiffyn pobl ym Mhrydain.

"Os yw rhywun fel Reyaad Khan eisiau brwydro yn erbyn y DU yna dyna'r union fath ymateb y dylen nhw ddisgwyl."

Y cwestiwn nawr yw a fydd y cyhoeddiad yma'n arwain at y llywodraeth yn cynnal pleidlais arall yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn ymestyn ymosodiadau y tu hwnt i Irac ac i mewn i Syria?

Mae rhai'n darogan y cawn ni'r ateb hwnnw o fewn yr wythnosau nesaf.